Cyfarfod Bethan Gwanas

Er mai fel awdur mae Bethan Gwanas yn enwog bellach, mae wedi gwneud sawl swydd cyn setlo i lawr i ysgrifennu yn llawn amser. Ymddeolodd o'i swydd fel hyrwyddwr llenyddiaeth i Gyngor Gwynedd yn 2003 er mwyn canolbwyntio ar ei gyrfa ysgrifennu.Cyn hynny, bu'n athrawes Ffrangeg, yn dysgu Saesneg yn Nigeria, yn ddirprwy bennaeth Gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn ac yn gynhyrchydd i Radio Cymru.Cafodd ei magu yn ferch fferm yn y Brithdir ger Dolgellau, Meirionnydd, a hynny i sŵn canu ei thad, yr enillydd Rhuban Glas, Tom Gwanas - er ei bod hi ei hun yn cyfaddef nad ydi hi wedi etifeddu ei ddawn leisiol!

Yn ogystal â'r nofel am hynt a helynt tîm rygbi merched, Amdani!, a wnaed yn gyfres deledu boblogaidd ac yn ddrama lwyfan, ymysg ei chyhoeddiadau eraill mae Dyddiadur Gbara; Cyfres Blodwen Jones ar gyfer dysgwyr; Llinyn Trôns; Sgôr, nofel i'r arddegau; Byd Bethan, a'r nofel fentrus, Gwrach y Gwyllt.Mae wedi ennill gwobr Tir na n-Og, sy'n anrhydeddu gwaith awduron llyfrau plant, ddwywaith - y tro cyntaf yn 2001 am Llinyn Trôns a'r ail yn 2003 am y nofel Sgôr a gyd-ysgrifennodd gyda chriw o ddisgyblion ysgol.Cyrhaeddodd ei nofel Hi yw Fy Ffrind restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.Dywed mai ei hoff lyfr pan yn blentyn oedd Brownie Tales gan Enid Blyton. Erbyn hyn ei hoff awduron yn y Gymraeg ydy Islwyn Ffowc Elis a Geraint V Jones, ac yn Saesneg Roddy Doyle, Isabelle Allende, JK Rowling a Barbara Kingsolver.Mae hi bellach yn byw yn ôl yn ei hardal enedigol yn Rhydymain ac mae'n gystadleuydd brwd ar y Talwrn ac mewn stompiau barddonol ar hyd a lled y wlad yn ogystal â bod yn wyneb cyfarwydd ar y teledu.

No comments:

Post a Comment